671 Torrwn fara
Cân Affro-Americanaidd cyf. R. Glyndwr Williams
Torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn,
torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn,
a phan rof fy ngliniau i lawr gan ŵynebu haul y wawr,
O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi.
Yfwn win ar ein gliniau yn gytûn,
yfwn win ar ein gliniau yn gytûn,
a phan rof fy ngliniau i lawr gan ŵynebu haul y wawr,
O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi.
Molwn Dduw ar ein gliniau yn gytûn,
molwn Dduw ar ein gliniau yn gytûn,
a phan rof fy ngliniau i lawr gan ŵynebu haul y wawr,
O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi.